Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23
Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Genhadaeth o ran Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd
(45 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Ddatblygu Gwledig ddomestig yn y dyfodol
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Effaith Drawsnewidiol Diwygio Cyllid Myfyrwyr
(30 munud)
7 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Yr Economi Sylfaenol
(30 munud)
8 Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7594 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
9 Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7593 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
(15 munud)
NDM7592 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
11 Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
(5 munud)
NDM7591 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 2 - 8;
b) Adran 1;
c) Adrannau 10 -18;
d) Adran 9;
e) Adrannau 20 - 25;
f) Adran 19;
g) Adrannau 27 - 30;
h) Atodlen 1;
i) Adrannau 31 - 36;
j) Adran 26;
k) Adrannau 38 - 48;
l) Adran 37;
m) Adrannau 50 - 55;
n) Adran 49;
o) Adrannau 56 - 57;
p) Adrannau 59 - 61;
q) Adran 58;
r) Adrannau 62 - 71;
s) Atodlen 2;
t) Adrannau 72 - 83;
u) Teitl hir.
12 Dynodi cydsyniad Ei Mawrhydi i'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
(1 funud)
13 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
(15 munud)
NDM7600 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). fel y'i diwygiad ar ôl Cyfnod 3
14 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 12.45, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2021